Sesiynau Galw-i-Mewn yr SGC
Mae Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig yn dechrau teithio eto ac yn cynnal cyfres o Sesiynau Galw-i-Mewn yn ystod y misoedd nesaf ledled y wlad i’r rhai a hoffai gyfarfod wyneb yn wyneb i ofyn cwestiynau am eu mentrau / eu gyrfaoedd / a’u dyheadau yn y diwydiant cerddoriaeth.
Bydd staff wrth law i ateb cwestiynau ac i gynnig canllawiau cyffredinol unigol i unrhyw un sy’n trefnu slot amser ymlaen llaw, ar y dyddiadau canlynol, o 3pm i 6pm.
17 Medi 2008 - "The Vic" Ystafelloedd Ymarfer, Hill Street, Wrecsam
18 Medi 2008 - Cell, Sgwar y Parc, Blaenau Ffestiniog
1 Hydref 2008 - Milkwood Jam, Plymouth Street, Abertawe
2 Hydref 2008 - Porth Plaza, Pontypridd Road, Rhondda Cynon Taf
Mae’r amseroedd i gyd yn rhai bras ac mae’r slotiau yn ddibynnol ar yr hyn sydd ar gael. Mae’r Sesiynau Galw-i-Mewn yn ddi-dâl.
Os hoffech drefnu amser neu os hoffech unrhyw wybodaeth arall, ffoniwch nhw ar 02920 494110.
Dewch i mewn i wefan Bandit, eisteddwch a rhowch eich traed i fyny. Busneswch trwy'r archif, newyddion ac erthyglau, s'dim ots da ni faint o flerwch wnewch chi...
22.8.2008
Chwilgig: Celt, 10 Gitar - Tafarn y Madryn, Chwilog
23.8.2008
Chwilgig: Daniel Lloyd a Mr Pinc, Martin Beattie a'i Fand, Mr Huw, Vanta, Emyr Gibson a'r Band, Yr Annioddefol, Eusebio, Dreunen Wen, Dail Gwair, Y Stilletoes, Jakokoyak - Tafarn y Madryn, Chwilog
23.8.2008
Gwyl y Faenol; Opera Gala gyda Bryn Terfel, Diana Damrau a Johan Botha, Cerddorfa Cenedlaethol Cymru, Nadia Krasteva - Parc y Faenol, Bangor